07761 656707 lishughes.jones@gmail.com
Seicotherapi
Gall fod nifer o resymau pam eich bod yn ystyried therapi. Fy null yw creu gofod cefnogol lle y medrwch ddweud eich stori. Rwy'n rhoi sylw i'ch profiad yn ei gyfanrwydd - eich meddyliau, teimladau, synhwyriadau corfforol a'ch cynefin. Gan gryfhau ymwybyddiaeth gallwn archwilio'r posibiliadau ar gyfer newid a chynnydd.
Rwy'n gweithio yn Nhreganna yng Nghaerdydd, ardal â gwasanaethau bws a thrên cyson o ganol y ddinas. Rwy'n codi ffi o £52 am sesiwn 50 munud. Cynigiaf gyfarfod ragarweiniol am ddim er mwyn i ni allu ystyried eich gofynion o ran therapi. O dro i dro medraf gynnig ffi gostyngedig.
Rwy'n gweithio yn y Gymraeg a'r Saesneg.
Hyfforddiant a Chefndir
Rwy'n Seicothrapydd Gestalt a Goruchwylwraig ar gofrestr UKCP (UK Council for Psychotherapy), ac yn aelod achrededig o'r Welsh Psychotherapy Institute (WPI). Rwy hefyd wedi dilyn hyfforddiant estynedig mewn triniaeth trawma cyfoes. Rwy'n ymddwyn yn ôl codau ethig WPI a UKCP ac mae gennyf Dystysgrif DBS Manwl.
Uwch Ddiploma Ôl-radd mewn Seicotherapi Gestalt; Welsh Psychotherapy Institute
Diploma Ôl-radd mewn Triniaeth Trawma Cyfoes; Relational Change
Tystysgrif mewn Goruchwyliaeth, CSTD Bath
BA Anrh. Llenyddiaeth Saesneg; Prifysgol Exeter
Mae fy nghefndir yn y theatr, darlledu ac ysgrifennu
Cysylltu
I wneud ymholiad neu i drefnu cyfarfod rhagarweiniol, cysylltwch â mi os gwelwch yn dda:
07761 656707 lishughes.jones@gmail.com